Mae pob un yn rhaglenni strwythuredig wedi'u hachredu'n genedlaethol sy'n cael eu sicrhau o ran ansawdd a'u harfarnu'n ffurfiol.

I holi am ddyddiadau cyrsiau, argaeledd a/neu i gael eich rhoi ar ein rhestr bostio ffoniwch 0300 303 8322 (Opsiwn 5) neu e-bostiwch [email protected]

 

Rhaglen Hunanreoli

Manylion y Rhaglen

Canser: Goroesi

Mae hon yn rhaglen hunanreoli 6 wythnos, 2 ½ awr yr wythnos ar gyfer unrhyw un sydd wedi goroesi canser ac a hoffai gael rhywfaint o gymorth i fynd yn ôl i'r drefn ddyddiol arferol.

 

Mae rhai o’r meysydd yr ydym yn eu trafod yn cynnwys:

  • Bwyta'n iach
  • Adennill ffitrwydd yn ystod ac ar ôl triniaeth canser
  • Byw gydag ansicrwydd
  • Meddwl yn gadarnhaol
  • Gwneud penderfyniadau
  • Canser a pherthnasoedd

 

 

Arweinir y cwrs hwn gan ddau diwtor lleyg sydd â phrofiad o fyw gyda chanser neu o ofalu am rywun sydd â chanser.

Rhaglen Hunan-reoli Clefyd Cronig (CDSMP)

 

Mae hon yn rhaglen hunanreoli 6 wythnos, 2 ½ awr yr wythnos ar gyfer unrhyw un sydd ag unrhyw gyflwr iechyd hirdymor.

 

Mae rhai o’r meysydd yr ydym yn eu trafod yn cynnwys:

  • Atal codymau a gwella cydbwysedd
  • Gwneud penderfyniadau
  • Rheoli poen a blinder
  • Gwell anadlu
  • Defnydd o feddyginiaeth
  • Gweithio gyda'ch Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol

 

 

Cyflwynir y cwrs hwn gan ddau diwtor lleyg sy'n byw gyda chyflwr cronig.

Rhaglen Hunan-reoli Diabetes(DSMP)

Mae hon yn rhaglen hunanreoli 6 wythnos, 2 ½ awr yr wythnos ar gyfer unrhyw un sydd â Diabetes Math 2 (nad yw'n ddibynnol ar inswlin).

 

  Mae rhai o’r meysydd yr ydym yn eu trafod yn cynnwys:

  • Beth yw Diabetes
  • Monitro a rheoli eich Diabetes
  • Atal cymhlethdodau
  • Sgiliau cyfathrebu
  • Technegau ymlacio

 

 

Cyflwynir y cwrs hwn gan ddau diwtor lleyg sydd â phrofiad o fyw gyda diabetes Math 2.

 

Rhaglen Rheoli Pwysau
 Bwyd Doeth am Oes

 

Mae hon yn rhaglen hunanreoli 8 wythnos, o 1 ½ awr yr wythnos ar gyfer unrhyw un sydd â BMI o 25 neu fwy, mewn rhai ardaloedd.

We also recruit those with a HbA1c of 42 – 47mmol/mol in addition to the BMI of 25 and above. Includes those considered pre-diabetic.

 

Mae rhai o’r meysydd yr ydym yn eu trafod yn cynnwys:

  • Paratoi i newid am oes
  • Meintiau dognau
  • Manteision ymarfer corff
  • Labeli bwyd
  • Cynllunio Prydau Bwyd
  • Cyfnewid bwyd a diod
  •  

 

  Cyflwynir y cwrs hwn gan Ymarferwyr Cynorthwyol Deieteg.

Rhaglen Rheoli Poen Sylfaenol

Mae hon yn rhaglen hunanreoli 6 wythnos 2 ½ awr yr wythnos ar gyfer unrhyw un â phoen cronig.

 

Mae rhai o’r meysydd yr ydym yn eu trafod yn cynnwys:

  • Beth yw poen cronig
  • Gweithgaredd corfforol ac ymarfer corff
  • Rheoli blinder
  • Symud yn hawdd

 

Cyflwynir y cwrs hwn gan ddau diwtor lleyg sydd â phrofiad o fyw gyda phoen Cronig.

Heneiddio’n Iach

 

Sesiwn 2 awr yw hon i unrhyw un a hoffai ddysgu ffyrdd o ofalu amdanoch eich hun wrth i chi heneiddio a lleihau’r arwyddion o eiddilwch.

 

Mae rhai o’r meysydd yr ydym yn eu trafod yn cynnwys:

  • Gofal traed
  • Gwella cydbwysedd ac atal codymau
  • Bwyta'n iach a maeth
  • Meddyginiaethau

Pledren a Choluddyn Iach

Sesiwn ragarweiniol 2 ½ - 3-awr yw hon ar gyfer unrhyw un sydd â phroblemau ymataliaeth neu unrhyw un a hoffai wybod mwy am faterion ymataliaeth a sut i’w reoli.

 

Mae rhai o’r meysydd yr ydym yn eu trafod yn cynnwys:

  • Mathau o ymataliaeth a rheolaeth
  • Sbardunau llid y bledren
  • Gweithgaredd Corfforol
  • Bwyta'n iach
  • Materion ymataliad y coluddyn a rheolaeth

Camau Iach

Mae hon yn sesiwn ryngweithiol 1 ½ - 2 awr ar ofal traed personol i bawb yr ystyrir eu bod yn risg isel o fewn y gwasanaeth podiatreg neu'r rhai yr ystyrir nad oes angen iddynt ddefnyddio'r gwasanaeth podiatreg.

 

Mae rhai o’r meysydd yr ydym yn eu trafod yn cynnwys:

  • Hunanofal beth ydyw
  • Esgidiau
  • Atal cwympiadau
  • Ffordd iach o fyw - bwyta'n iach
  • Talu sylw i'ch traed

 

 

Cyflwynir y cwrs gan diwtor lleyg gyda chefnogaeth podiatrydd.

Cyflwyniad i Iechyd a Lles (ISM)

Sesiwn gyflwyno 3 awr yw hon i unrhyw un ag unrhyw gyflwr iechyd hirdymor a/neu ofalwyr.

 

  Mae rhai o’r meysydd yr ydym yn eu trafod yn cynnwys:

 

  • Bwyta'n iach
  • Meddwl yn gadarnhaol
  • Cyfathrebu
  • Rheoli gweithgaredd dyddiol
  • Meddyginiaeth
  • Ymlacio

 

Cyflwynir y cwrs hwn gan diwtor lleyg sydd â phrofiad o fyw gyda chyflwr iechyd hirdymor.

Cyflwyniad i Iechyd a Lles i Ofalwyr (I to LAM)

Sesiwn 3 awr yw hon sy’n cyflwyno gofalwyr i sgiliau i gefnogi iechyd a lles a datblygu eu sgiliau hunanreoli.

 

Mae rhai o’r meysydd yr ydym yn eu trafod yn cynnwys:

  • Gwneud penderfyniadau anodd
  • Rheoli dyddiau anodd
  •  Meddwl yn bositif
  • Bwyta'n iach

 

Cyflwynir y cwrs hwn gan diwtor lleyg sydd â phrofiad o fod yn ofalwr.

Byw gyda COPD

Mae hon yn rhaglen hunanreoli 7 wythnos, 2 awr yr wythnos ar gyfer unrhyw un sy'n byw gyda Chlefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (gan gynnwys diffyg anadl).

 

Mae rhai o’r meysydd yr ydym yn eu trafod yn cynnwys:

  • Beth yw COPD?
  • Cynllunio a datrys problemau
  • Delio ag emosiynau anodd
  • Rheoli gweithgareddau dyddiol
  • • Gweithio gyda'ch Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol

 

 

Cyflwynir y cwrs hwn gan ddau diwtor sydd â COPD neu sydd wedi gofalu am rywun sydd â COPD, gyda chymorth clinigol ar wythnos 1 ac wythnos 7 gan Arbenigwr Anadlol.

Byw gyda Lymffoedema

Mae hon yn sesiwn 2 awr ar gyfer unrhyw un sy'n byw gyda Lymffoedema.

Mae rhai o’r meysydd yr ydym yn eu trafod yn cynnwys:

 

  • Trin Lymffoedema a lleihau risgiau
  • Gofal Croen
  • Bwyta'n iach
  • Manteision gweithgaredd corfforol

 

Cyflwynir y cwrs hwn gan diwtor lleyg gyda chefnogaeth Ymarferydd Cynorthwyol Lymffoedema.

Byw gyda COVID hir

Sesiwn 2 – 2 ½ awr yw hon i unrhyw un sy’n byw gydag ôl-effeithiau COVID 19 a elwir yn COVID hir.

 

Mae rhai o’r meysydd yr ydym yn eu trafod yn cynnwys:

  • Beth yw Covid Hir a'r Symptomau
  • Rheoli'r Symptomau
  • Delio â hwyliau isel ac iselder
  • Pryd i geisio cymorth

 

Cyflwynir y cwrs hwn gan diwtoriaid lleyg.

STANCE

 

Sesiwn iechyd traed 1 ½ - 2 awr yw hon i unrhyw un sydd â Diabetes, yn rhoi gwybodaeth am ddiabetes a sut mae'n effeithio ar eich traed a sut i leihau'r risg o gymhlethdodau pellach.

 

Mae rhai o’r meysydd yr ydym yn eu trafod yn cynnwys:

  • Diabetes a fy nghorff
  • Cylchrediad gwael
  • Niwed i'r nerfau
  • Cymhlethdodau traed
  • Camau i leihau problemau gyda'ch traed

Cyflwynir y cwrs hwn gan diwtor lleyg gyda chefnogaeth podiatrydd.

Rhaglen Diabetes

(X-PERT)

Mae hon yn rhaglen hunanreoli 6 wythnos, 2 ½ awr yr wythnos ar gyfer unrhyw un â Diabetes Math 2.

 

Mae rhai o’r meysydd yr ydym yn eu trafod yn cynnwys:

  • Beth yw Diabetes
  • Treuliad a glwcos yn y gwaed
  • Hunan-fonitro, meddyginiaethau, rheoli pwysau
  • Ymwybyddiaeth o garbohydradau
  • Cymhlethdodau posibl Diabetes
  • Gosod nodau

 

  Cyflwynir y cwrs hwn gan Nyrsys Diabetes Arbenigol a Dietegwyr Diabetes Arbenigol.

Rhaglen Diabetes Inswlin X-Pert
(X-PERT Inswlin
)

This is a 6 week, 2 ½ hours per week Self-management programme for anyone with Diabetes on insulin.

 

Mae rhai o’r meysydd yr ydym yn eu trafod yn cynnwys:

  • Beth yw Diabetes / rôl inswlin
  • Treuliad a glwcos yn y gwaed
  • Hunan-fonitro, meddyginiaethau, rheoli pwysau
  • Ymwybyddiaeth o garbohydradau
  • Cymhlethdodau posibl Diabetes

 

Cyflwynir y cwrs hwn gan Nyrsys Diabetes Arbenigol a Dietegwyr Diabetes Arbenigol.